- Jobs
- Open Calls
- Events
- Learning
- More
- SUBMIT
Gwobrau Marsh am Ragoriaeth mewn Addysg Orielau 2019
Category:
Artistic field:
Eligibility:
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gwneud gwaith rhagorol ym maes addysg orielau neu addysg a dysgu celf weledol?
Mae Engage, y Gymdeithas Genedlaethol er Addysg mewn Orielau, ac Ymddiriedolaeth Marsh Christian yn falch i gyhoeddi Gwobrau Marsh am Ragoriaeth mewn Addysg Orielau 2019. Mae’r Gwobrau, sy’n cydnabod ac yn dathlu cyflawniad y rheini sy’n gweithio ym maes dysgu ac addysg mewn cyd-destun oriel neu’r celfyddydau gweledol (hunangyflogedig, cyflogedig neu fel gwirfoddolwyr) yn y DU ac yn rhyngwladol, yn rhoi £500 i’r enillwyr ei wario ar eu datblygiad proffesiynol.
Eleni mae Engage ac Ymddiriedolaeth Marsh Christian yn lansio Gwobr flynyddol newydd i ddathlu cyflawniad oes cydweithiwr sy’n gweithio, neu sydd wedi gweithio ym maes dysgu neu addysg mewn neu ar ran orielau neu sefydliadau celfyddydau gweledol yn y DU. Bydd yr enillydd yn derbyn £500 i wario yn ôl eu dymuniad.
Dyddiad cau enwebiadau: Dydd Llun 9 Medi 2019, 10:00 am
Gwybodaeth am y gwobrau
Cynigir gwobr o £500 yr un i bedwar unigolyn yn y DU ac un yn rhyngwladol, sy’n gweithio ym maes dysgu neu addysg neu i orielau neu gyrff celfyddydau gweledol, sydd wedi dangos ymroddiad neu arloesi yn eu gwaith.
Cynigir y wobr cyflawniad oes newydd i un unigolyn yn y DU sy’n gweithio, neu sydd wedi gweithio ym maes dysgu neu addysg mewn neu ar ran orielau neu sefydliadau celfyddydau gweledol. Cyhoeddir yr holl wobrau yng Nghynhadledd Ryngwladol Engage yn Newcastle Gateshead, 5–6 Tachwedd 2019.
Ac eithrio’r Wobr cyflawniad oes, dylai’r enillwyr ddefnyddio eu Gwobr i gefnogi eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a bydd gofyn i bob un gwblhau ffurflen adborth fer erbyn mis Mawrth 2020. Gall enillydd y Wobr cyflawniad oes ddewis defnyddio’r Wobr i wneud beth bynnag mae’n ei ddymuno, a allai gynnwys cefnogi eu DPP os yw hynny’n berthnasol.
Ers 2011, mae’r Gwobrau wedi galluogi’r enillwyr i ddatblygu eu hymarfer addysg yn y celfyddydau drwy eu galluogi i fynychu cyrsiau a chynadleddau, ymuno â chymdeithasau proffesiynol, gweld ymarfer da yn y DU a thramor, cyllido ymchwil, ac ysbrydoli hyder personol a phroffesiynol drwy gydnabyddiaeth i’w gwaith.
Pwy a all gael ei enwebu am y Gwobrau?
Anogir enwebiadau i gydweithwyr ar bob cam yn eu gyrfa, yn gweithio ar eu liwt ei hun, yn gyflogedig neu’n wirfoddol. Mae Engage yn croesawu enwebiadau i bobl yn gweithio gyda chyrff o bob maint. Gwahoddir enwebiadau i bobl nad ydyn nhw’n aelodau o Engage hefyd. Dylai’r sawl sy’n enwebu fod yn gydweithiwr neu’n gynrychiolydd mewn sefydliad sydd wedi gweithio gyda’r sawl sy’n cael ei enwebu.
Os ydych chi wedi cyflwyno enwebiad yn y gorffennol, mae croeso i chi wneud hynny eto, byddem ni’n falch i ystyried eich enwebiad yn 2019. Hoffai Engage ddiolch i gydweithwyr am y safon uchel iawn o geisiadau a gafwyd dros yr wyth mlynedd diwethaf.
Pwy a all gael ei enwebu am y Wobr cyflawniad oes?
Anogir enwebiadau i gydweithwyr sydd wedi gweithio am amser sylweddol ym maes dysgu neu addysgu mewn neu ar ran orielau neu sefydliadau celfyddydol yn y DU. Mae Engage yn croesawu enwebiadau i gydweithwyr sydd yn dal i fod yn gweithio a’r rheini sydd wedi rhoi’r gorau i weithio. Mae Engage yn croesawu enwebiadau i’r rheini sy’n gweithio neu sydd wedi gweithio mewn sefydliadau o bob maint. Gall enwebeion fod yn gweithio neu wedi gweithio’n llawrydd, mewn swyddi cyflogedig neu fel gwirfoddolwyr. Anogir enwebiadau i’r rheini nad ydyn nhw’n aelodau o Engage hefyd. Dylai enwebwyr fod yn gydweithiwr ar hyn o bryd neu’n gyn-gydweithiwr neu’n gynrychiolydd sefydliad sydd wedi gweithio gyda’r sawl sy’n cael ei enwebu.
Sut i enwebu
Ewch i https://engage.org/happenings/gwobrau-marsh-2019/ i lawrlwytho Ffurflen Enwebu. Ceir ffurflenni ar wahân i’r Gwobrau cyffredinol a’r Wobr cyflawniad oes. Cwblhewch y ffurflen berthnasol a’i hanfon i info@engage.org erbyn dydd Llun 9 Medi 2018, 10:00 am
Os ydych chi’n enwebu rhywun, rhowch wybod iddyn nhw eich bod yn gwneud hynny a thrafodwch y cais gyda nhw. Ac eithrio’r Wobr cyflawniad oes, hoffem wybod sut y byddai pob enwebai’n dymuno defnyddio’r wobr ar gyfer eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Ar gyfer y Wobr cyflawniad oes, mae’r cwestiwn ynghylch sut y byddai’r buddugol yn defnyddio’r Wobr yn ddewisol.
Dylai enwebiad gymryd llai nag awr i’w gwblhau.
Meini prawf a’r broses beirniadu
Dylai enwebiadau ddangos sut mae’r sawl sy’n cael ei enwebu wedi rhagori ar ddisgwyliadau ei rôl, neu ei rôl flaenorol, drwy ddangos ymroddiad neu arloesi yn eu gwaith.
Bydd y beirniadu’n digwydd ac enillwyr yn cael eu hysbysu ym mis Medi. Bydd panel o arbenigwyr mewn addysg oriel a chynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Marsh Christian ac Engage yn dewis yr enillwyr. Caiff y Gwobrau eu cyflwyno yn ystod Cynhadledd Ryngwladol Engage yn Newcastle Gateshead, 5-6 Tachwedd 2019. Bydd y seremoni wobrwyo’n cynnwys disgrifiad o waith addysg a chyflawniadau’r enillwyr, a gwahoddir yr enillwyr i gyflwyno fideo byr am eu gwaith i’w ddangos. Ar gyfer y Wobr cyflawniad oes, gall Engage gynnig helpu gyda’r ffilm neu’r cyflwyniad fideo. Bydd enillwyr yn y DU yn cael cynnig costau teithio (hyd at £165) i ddod i’r seremoni wobrwyo, cinio a diwrnod am ddim yn y Gynhadledd ar ddiwrnod y seremoni neu’r diwrnod canlynol. Cynigir costau teithio i’r enillydd rhyngwladol (hyd at £425) i ddod i’r digwyddiad Gwobrwyo, cinio a diwrnod am ddim yn y Gynhadledd ar ddiwrnod y seremoni neu’r diwrnod canlynol.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cysylltwch â Louise Rutledge, Swyddog Cyfathrebu, Engage: communications@engage.org / 020 7729 5858.
Mae Engage yn ymrwymo i gydraddoldeb mynediad. Os oes angen y manylion enwebu hyn mewn fformat arall cysylltwch ag Engage ar 020 7729 5858 / info@engage.org
Gwobrau Marsh
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Marsh Christian yn 1981 fel corff dyfarnu grantiau. Mae’r ymddiriedolaeth yn rhedeg cynllun Gwobrau sy’n cynnwys tua 80 o Wobrau mewn partneriaeth gyda chyrff ar draws meysydd y Celfyddydau, Treftadaeth, Lles Cymdeithasol a Chadwraeth. Mae’r ymddiriedolaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff fel Engage i ganfod yr ymgeiswyr gorau a chyflwyno’r gwobrau hyn. Lansiwyd Gwobrau Marsh am Ragoriaeth mewn Addysg Orielau yn 2011 yn wobr flynyddol i gydnabod y rheini sy’n gweithio mewn Addysg Orielau sydd wedi dangos ymroddiad neu arloesi yn eu gwaith.
Engage
Engage yw’r prif rwydwaith eiriolaeth a hyfforddiant ym maes addysg orielau. Rydym ni’n cefnogi addysgwyr celfyddydau, sefydliadau ac artistiaid i weithio gyda chymunedau mewn cyfnewidiadau dynamig, agored sy’n cynnig cyfle i bawb ddysgu a chael budd o’r celfyddydau.
Mae Engage yn Sefydliad Portffolio Cenedlaethol Arts Council England, mae’n derbyn cyllid Loteri Genedlaethol drwy Creative Scotland a chyllid prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Mae aelodaeth yn dechrau ar £36 y flwyddyn neu £3.25 y mis. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://engage.org/membership/
Deadline:
09/September/2019
Entry Fee:
- No
Contact & Links:
Call for Entries Homiens International, Online |
The Homiens Art Prize 30/April/2024 |
|
Call for Submissions Taoyuan Museum of Fine Arts International |
2025 Taoyuan International Art Award 26/April/2024 |
|
Residency PRAKSIS Oslo |
PRAKSIS R29 For real? With Harold Offeh 07/May/2024 |
|
Call for Artists Saint Louis Art Gallery Oxford Oxford |
Purple 17/May/2024 |
|
Call for Artists São Rafael Galleries Lisbon |
Join on a Mind-Blowing 3D Holographic Exhibition at Vision Art Fair Lisbon 05/May/2024 |
|
Call for Submissions BLOW UP PRESS International |
BUP Book Award 2024 12/May/2024 |
|
Call for Entries Azalea Arts Community Tucson |
Nostalgia 15/June/2024 |
|
Call for Artists Associazione culturale San Severo |
Mail art call: Festa del Soccorso 13/May/2024 |
|
Call for Artists City Walls Detroit |
Cherrylawn/Littlefield Street Mural and Curb Extension Project 28/April/2024 |
|
Call for Artists COMEL Award Latina |
Aluminium, beneath the surface 23/June/2024 |
|
Call for Artists The Feminist Lecture Program London |
The Feminist Lecture Program x Nunhead Cemetery Summer Program and Exhibition: Artist Call-Out 12/May/2024 |
|
Call for Artists São Rafael Galleries Lisbon |
OPEN-CALL ARTBOX VR | Vision Art Fair Lisbon 04/May/2024 |
|
Call for Artists Stiftung Villa Sonnenberg Lenzburg |
«InterGeneration» 31/May/2024 |
|
Call for Artists THE HOLY ART London |
Boring - A hybrid show 15/May/2024 |
|
Call for Artists Gallery Ring |
Gallery Ring BLUE Online Art Contest 23/May/2024 |
|
Call for Artists Delaney George Los Angeles |
Indelible Imprints: Los Angeles Billboard Exhibit 29/April/2024 |
|
Call for Entries Pale Space Gallery New York |
Pale Space Gallery - Open call - DREAM 15/May/2024 |
|
Call for Artists Barbagelata Contemporary Art Foundation International |
EARTH - ARTIST OPEN CALL - International Online Exhibition 31/May/2024 |
|
Call for Submissions Arts for Global Development, Inc. |
Project H2O 05/June/2024 |